Skip to content ↓

​​​​​​​Croeso

Croeso i wefan Ffederasiwn Ysgolion Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn.

Mae ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch wedi gweithio mewn partneriaeth o dan arweiniad yr un Pennaeth ers 2011, ac wedi ffederaleiddio o dan un Corff Llywodraethol ers 2019.

‘Gyda’n gilydd gallwn lwyddo’ yw arwyddair ein partneriaeth. Anelwn at barchu hunaniaeth a natur unigryw'r naill ysgol yn ei chymuned, tra’n elwa ar yr hyn y mae ein partneriaeth yn cynnig i’n disgyblion.

Yma, ar wefan y ffederaliaeth cewch wybodaeth gyffredinol ynghylch y modd y llywodraethir y ddwy ysgol, ynghyd a gwybodaeth gyffredinol ynghylch prosesau a pholisïau cyffredin i’r ddwy ysgol.

Porwch wefannau'r ysgolion yn unigol am wybodaeth benodol ynghylch y naill leoliad.

Catryn Lawrence

Pennaeth

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluogambitious, capable learners

  • cyfranwyr mentrus, creadigolenterprising, Creative contributors

  • Cymry moesol, gwybodusethical, informed Welsh citizens

  • unigolion iach, hyderushealthy, confident individuals