Skip to content ↓

Ein Gweledigaeth

 

Plant hapus, sydd yn falch dod i’r ysgol yw trothwy ein gweledigaeth yn Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch. Credwn y gryf bod dysgwyr hapus yn ddysgwyr llwyddiannus. Tra bod disgyblion yn ein gofal, ein nod, yw cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:

· ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau

· gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith

· Cymry egwyddorol, gwybodus, sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd

· unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

Mae’r rhain yn seiliedig ar 4 Diben ‘Cwricwlwm i Gymru’ a ddaeth yn weithredol yn 2022. Penderfynwyd fel corff llywodraethol i fabwysiadu'r rhain fel prif werthoedd yr ysgol fel eu bônt yn ddyhead, ac yn nod i’n holl ymarfer, ac yn sail i ddysgu ac addysgu.

Ein gobaith yw:

  • Mae pob disgybl yn datblygu chwilfrydedd, uchelgais a brwdfrydedd dros eu dysgu.
  • Mae pob disgybl yn datblygu’r a throsglwyddo sgiliau craidd i gorau eu gallu
  • Mae pob disgybl yn datblygu ei effeithlonrwydd personol gan eu galluogi i weithio’n annibynnol, i gyd-weithio gydag eraill ac addasu i heriau.
  • Mae arweinwyr ac athrawon yn gyson yn gosod disgwyliadau uchel ar bob disgybl gan eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.
  • cydweithia arweinwyr, athrawon a’r gymuned ehangach i ddarparu cwricwlwm amrywiol ac apelgar i’r holl ddysgwyr sydd yn cynnig profiadau i ddatrys problemau, meddwl yn feirniadol a bod yn greadigol.
  •  Mae’r ysgol, eu disgyblion a’u theuluoedd yn parchu ei gilydd ac yn cydweithio gydag empathi er lles ein gilydd.
dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu yn eu bywydau 

cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae ran lawn mewn bywyd a gwaith

Cymry egwyddorol, gwybodus, sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd
 

 

unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

 

‘Gyda’n gilydd gallwn lwyddo’

Fel corff llywodraethol ac fel un corff o staff, anelwn at sicrhau bod ein partneriaeth o fudd i’n  dysgwyr.

Cyfoethoga’r bartneriaeth brofiadau ac addysg dysgwyr y naill ysgol trwy:

  • ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion feithrin cylch ehangach o ffrindiau cyn mentro i’r ysgol uwchradd.
  • arloesi’r defnydd o dechnoleg fel cyfrwng i gyfathrebu a chydweithio ar draws y ddwy safle.
  • Cyfleodd ar y cyd i fynegi barn a gwneud penderfyniadau ynghylch sut mae’r ysgol yn gweithio e.e. pwyllgorau ysgol.
  • rhannu arbenigedd a thalentau disgyblion wrth ddatblygu sgiliau arwain a chydweithio. E.e. timoedd chwaraeon, cyfleoedd perfformio a phrojectau ar y cyd
  • rhannu arbenigedd dysgu staff wrth cyd-gynllunio profiadau dysgu a rhannu adnoddau.
  • rhannu’r arferion orau a chymharu safonau ymysg disgyblion a staff
  • cyfleoedd cyson i gymdeithasu yn y Gymraeg a phrofi amgylchedd gwahanol e.e. clwb yr urdd ar y cyd, digwyddiadau CRhA
  • pwyllgorau ysgol ar y cyd