Skip to content ↓

ALN

Amlinella ein polisi y modd yr adnabyddir a chefnogir disgyblion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  

Tra bod gan bob aelod o staff gyfrifoldeb am gefnogi disgyblion ag ADY, Miss Rhian Cory yw Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol(CADY) Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch.

2 system

Mae’r ffordd rydym yn cefnogi disgyblion yn newid. Rydym yn y broses o symud o’r hen system anghenion addysg arbennig (AAA) i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y rhan fwyaf o blant yn symud o’r system AAA i’r system ADY dros dair blynedd.

 

AAA

Os ydy eich plentyn ar yr hen system AAA ar hyn o bryd, golygir os oes gan eich plentyn AAA bydd Cynllun Addysg Unigol (CAU) yn cael eu creu iddynt. Bydd y CAU yn gosod targedau i’w cyrraedd ac amlinellu cefnogaeth. Caiff y CAU ei hadolygu dwy waith y flwyddyn.

 

ADY

Er mwyn trosglwyddo eich plentyn i’r system ADY newydd bydd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn llywio proses person ganolog, a fydd yn ystyried llais y plentyn, mewnbwn rhieni staff yr ysgol ynghyd a mewnbwn unrhyw asiantaethau sy’n cefnogi’r plentyn. Cyfarfyddir i benderfynu a oes gyda’r plentyn ADY sydd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (ALP).

Wedi gwneud hyn byddwch yn derbyn hysbysiad Cynllun Datblygu Unigol(CDU) os oes gan blentyn ADY neu Dim CDU os nad oes gan blentyn ADY o dan diffiniad y côd.

 

Mae gwybodaeth bellach i’w weld yma.

Rhoi system newydd anghenion dysgu ychwanegol yn ei le rhwng Medi 2021 ac Awst 2024 (llyw.cymru)

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please