Skip to content ↓

Equal Opportunities

Un o werthoedd craidd yr ysgol yw ein bod yn meithrin dinasyddion moesegol gwybodus sy’n gwerthfawrogi ac yn parchu urddas a gonestrwydd pob unigolyn. Ymdrechwn i ddarparu cyfleoedd cyfartal i ddisgyblion, staff a rhieni heb wahaniaethu ar sail rhyw, rhywedd, crefydd, lliw, iaith nac anabledd. Ein nod yw creu amgylchedd sy'n hyrwyddo parch at bawb. Yn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn credwn y dylai pawb, y rhai sy'n dysgu, addysgu ac yn ymweld yma, ddathlu amrywiaeth.

Disgyblion ag anableddau 

Mae safle’r nail ysgol yn sicrhau mynediad hawdd i ddisgyblion a rhieni ag anableddau. Gwneir trefniadau arbennig rhwng yr ysgol a’r cartref pan fydd disgybl ag anableddau neu Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dechrau yn yr ysgol. Cysylltwch â'r Pennaeth am fwy o wybodaeth.

Mae’r ysgol yn sensitif i anghenion disgyblion ag anableddau ac yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o fywyd a gwaith yr ysgol.