Federation Aims
Plant hapus, sydd yn falch dod i’r ysgol yw trothwy ein gweledigaeth yn Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch. Credwn y gryf bod dysgwyr hapus yn ddysgwyr llwyddiannus. Tra bod disgyblion yn ein gofal, ein nod, yw cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:
· ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
· gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
· Cymry egwyddorol, gwybodus, sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
· unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae’r rhain yn seiliedig ar 4 Diben ‘Cwricwlwm i Gymru’ a ddaeth yn weithredol yn 2022. Penderfynwyd fel corff llywodraethol i fabwysiadu'r rhain fel prif werthoedd yr ysgol fel eu bônt yn ddyhead, ac yn nod i’n holl ymarfer, ac yn sail i ddysgu ac addysgu.
Ein gobaith yw bod pob plentyn yn ein gadael ni yn deall ei gwerth, gyda’r hyder i fentro.
dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu yn eu bywydau
cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae ran lawn mewn bywyd a gwaith
Cymry egwyddorol, gwybodus, sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd
unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
‘Gyda’n gilydd gallwn lwyddo’
Fel corff llywodraethol ac fel un corff o staff, anelwn at sicrhau bod ein partneriaeth o fudd i’n dysgwyr.
Cyfoethoga’r bartneriaeth brofiadau ac addysg dysgwyr y naill ysgol trwy:
- rhannu arbenigedd dysgu staff wrth cyd-gynllunio ac amnewid dosbarth
- arloesi wrth ddysgu’n rhithiol ar draws dwy safle
- rhannu arbenigedd disgyblion
- rhannu arfer orau ymysg disgyblion a staff
- sbardun difyr i gyfathrebu yn ysgrifenedig neu ar lafar
- timoedd chwaraeon a chyfleoedd perfformio traws ysgol
- mabolgampau ac eisteddfod ysgol ar y cyd
- pwyllgorau ysgol ar y cyd
- cyfleoedd i gymdeithasu a phrofi amgylchedd gwahanol
- clybiau ar ôl ysgol ar y cyd
- rhannu adnoddau, ymweliadau ac ymwelwyr
- gwasanaethau rhithiol ar y cyd
- Cylch ehangach o ffrindiau cyn mentro i’r uwchradd