GDPR and Privacy Notice
Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth
Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch
Mae trin gwybodaeth bersonol yn gywir gan Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch yn bwysig iawn wrth gyflwyno ein gwasanaethau a chynnal hyder y cyhoedd.
Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych. Mae hyn yn golygu mai’r ysgol sy’n pennu’r pwrpasau a’r modd y caiff unrhyw ddata personol sy’n ymwneud â disgyblion a’u teuluoedd, staff a llywodraethwyr ei brosesu.
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth bersonol' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn ac mae ganddynt yr un ystyr.
Cynhyrchwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn i esbonio mor glir â phosib yr hyn a wnawn gyda'ch data personol.
1. Y dibenion yr ydym yn defnyddio'ch data personol ar eu cyfer
Fel rheolwyr data, mae'r ysgol yn defnyddio'r wybodaeth a dderbyniwyd at y dibenion isod:
- At ddibenion adrodd ar berfformiad ysgolion;
- Adrodd ar berfformiad ysgolion;
- Rhoi cyfleoedd dysgu i ddysgwyr, gan gynnwys teithiau ysgol a llwyfannau dysgu megis Hwb;
- Darparu prydau ysgol am ddim;
- Cefnogi anghenion iechyd gan gynnwys cyflyrau meddygol, alergeddau;
- Darparu cludiant;
- Cefnogi anghenion ehangach disgyblion, megis anghenion dysgu ychwanegol, iechyd meddwl, lles a chefnogaeth gyrfaoedd.
Ni fydd unrhyw ddata byth yn cael ei gyhoeddi a fyddai'n galluogi adnabod disgyblion unigol.
2. Pam rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth?
Mae gan Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch yr hawl cyfreithiol i gasglu a defnyddio data personol sy’n ymwneud â disgyblion a’u teuluoedd, a gallwn hefyd dderbyn gwybodaeth perthnasol o’u ysgol blaenorol, yr ALl a/neu Llywodraeth Cymru. Rydym yn casglu a defnyddio data personol er mwyn cwrdd â gofynion cyfreithiol a diddordebau cyfiawn fel y’u pennir yn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data 2018, sy’n cynnwys y rheiny sy’n berthnasol i’r canlynol:
- Erthygl 6 ac Erthygl 9 o’r GDPR;
- Deddf Addysg (Cymru) 2014;
- Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011.
3. Pa fath o wybodaeth ydym ni'n ei ddefnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch i gyflwyno'r gwasanaeth hwn:
- Enw;
- Cyfeiriad;
- Dyddiad Geni;
- Rhyw;
- Anghenion Addysgol Arbennig;
- Cofnodion asesiadau a phresenoldeb
- Rhif Ffôn;
- Cyfeiriad ebost;
- Cyfansoddiad eich teulu;
- Delweddau / ffotograffau;
- Gwybodaeth am eich iechyd;
- Eich tarddiad hiliol neu ethnig;
- Eich crefydd;
- Eich defnydd o iaith;
- Data biometrig (mewn rhai ysgolion ar gyfer arlwyo heb arian);
- Cofnodion cyflogeion.
4. A ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a dderbynnir o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond efallai y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Athrawon;
- Cyngor Sir Ceredigion;
- Byrddau Cymhwyster.
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Canlyniadau asesiadau / profion;
- Canlyniadau TGAU, Safon Uwch neu gyfwerth;
- Gwybodaeth ar les / presenoldeb / gwaharddiadau.
5. Trosglwyddo'ch gwybodaeth dramor
Ni chaiff eich gwybodaeth ei drosglwyddo y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
6. Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth?
Efallai y byddwn yn rhannu'ch gwybodaeth gyda'r derbynwyr canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Llywodraeth Cymru;
- Cyngor Sir Ceredigion;
- ERW (consortiwm addysg rhanbarthol);
- Gyrfa Cymru;
- GIG;
- Unrhyw gorff a gydnabyddir gan Y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual) mewn perthynas â'r dyfarniad neu ddilysu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad o'r cymhwyster;
- Cwmnïoedd sy'n darparu llwyfannau addysgol i greu cyfrifon dysgwr i gael mynediad i'w llwyfannau meddalwedd;
- Adnoddau dysgu addysgol eraill y mae'r ysgol yn eu defnyddio i wella profiad dysgu'r disgybl;
- Rhieni / Gwarcheidwaid.
Bydd yr ysgol ond yn darparu data i sefydliad arall at ddiben penodol ac am gyfnod cyfyngedig, ac ar ôl hynny rhaid i'r sefydliad gadarnhau ei bod wedi'i ddinistrio. Rhaid i unrhyw ddadansoddiadau a gynhyrchir ddilyn rheolau datgelu Llywodraeth Cymru i sicrhau na ellir adnabod disgyblion unigol.
Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd penodol lle mae'n bosib y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
- Lle mae'n ofynnol i'r ysgol ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith;
- Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd;
- Pan fo datgeliad o fewn buddiannau hanfodol y person dan sylw.
7. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?
Bydd yr ysgol yn cadw cofnod disgybl llawn nes bydd y disgybl yn gadael yr ysgol (ar gyfer ysgolion cynradd) neu hyd at ben-blwydd y plentyn yn 25 oed (ar gyfer ysgolion uwchradd a chanol) neu hyd at y meini prawf sy'n sail i'r rheoliad statudol, yn unol â Chanllawiau Cadw Cyngor Ceredigion. Efallai y bydd gan ddata arall gyfnodau cadw gwahanol y gellir eu canfod yn yr "Atodlen Cadw Data ar gyfer Ysgolion a'r ALl". Ar ôl y pwynt hwn, bydd y data yn cael ei wneud yn ddienw yn unol ag arferion gorau ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig.
8. Eich hawliau dan y Ddeddf Diogelu Data (2018) & GDPR
Mae gennych yr hawl i:
- Gael mynediad at y data personol y mae'r ysgol yn ei brosesu amdanoch chi;
- Cael unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn wedi'i gywiro;
- Tynnu’n ôl eich caniatâd i brosesu, lle mai dyma'r unig sail ar gyfer y prosesu;
- Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), y corff annibynnol yn y DU sy'n diogelu hawliau gwybodaeth.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai bod gennych yr hawl i:
- Wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol;
- Dileu eich data personol;
- Cyfyngu prosesu eich gwybodaeth bersonol;
- Cludadwyedd data (sy'n rhoi'r hawl i chi dderbyn data personol yr ydych wedi'i ddarparu i'r ysgol mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn aml ac sydd ar ffurf y gall peiriant ei ddarllen).
9. Manylion cyswllt
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Gwasanaethau Dysgu
Cyngor Sir Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE
E-bost: servicedesk@cerenet.org.uk
Ffôn: 01970 63 3678
Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â chanllawiau pellach ar ddeddfwriaeth Diogelu Data i'w gweld ar wefan yr ICO: