Governance
Mae Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch yn ysgolion a gynhelir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae ysgolion a gynhelir yng Ngheredigion yn cael eu rheoli gan fyrddau llywodraethu y mae eu haelodaeth yn cynnwys rhieni, staff a llywodraethwyr cyfetholedig. Mae penaethiaid yn uniongyrchol gyfrifol i'r bwrdd llywodraethu am berfformiad yr ysgolion.
Mae Corff Llywodraethol Ffederasiwn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn yn cynnwys cynrychiolwyr o blith staff, rhieni, yr Awdurdod Lleol a’r gymuned ehangach. Mae'n sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau statudol yn cael eu cyflawni a hefyd yn monitro gwaith y ddwy ysgol yn y Ffederasiwn. Mae llywodraethwyr yn gweithio gyda'r ysgolion a'r staff i ddarparu'r amgylchedd dysgu gorau a chyfleoedd addysgol i'r plant.
Mae’r corff yn cyfarfod yn ffurfiol unwaith bob tymor. Hysbysebir rhieni o ddyddiad y cyfarfod ar wefan yr ysgol. Os oes mater gyda chi yr hoffech inni drafod, ysgrifennwch at aelodau’r corff i’w codi ar eich rhan. Gyrrwch lythyr, neu ebost trwy law y pennaeth neu unrhyw aelod arall o’r corff.
Mae is-bwyllgorau’r Corff llywodraethol yn cyfarfod yn ôl yr angen, ac yn adrodd yn ôl i’r corff e.e. i drafod cynnydd disgyblion a chynnwys y cwricwlwm, i drafod cyllid a staffio, cynnal awdit iechyd a diogelwch o’r safle. Gwahoddir aelodau’r corff i gymryd rhan mewn gweithgareddau’r ysgol yn gyson megis darllen yn wythnosol gyda disgyblion, cynnal gweithdai, dod ar dripiau, neu mynychu cyfarfodydd y cyngor ysgol.
Rob Mills, Cadeirydd y Llywodraethwyr