Skip to content ↓

Holidays During Term Time

Os ydych yn dymuno mynd â’ch plentyn/plant ar wyliau yn ystod y tymor, rhaid i chi lenwi ffurflen gais am wyliau.

 

Mae Rheoliadau Cofrestru Disgyblion (Cymru) 2010 yn rhoi pŵer yn ôl disgresiwn i benaethiaid awdurdodi absenoldeb am wyliau teulu yn ystod y tymor pan fo rhieni yn gofyn am ganiatâd. Yn yr ysgol ystyrir awdurdodi ceisiadau am absenoldeb estynedig sydd yn cynnwys ymweliad â theulu, gweithgareddau diwylliannol neu weithgareddau addysgol oddi ar y safle yn ôl disgresiwn y pennaeth. Fel arall, ein polisi yw i beidio â chymeradwyo gwyliau yn ystod y tymor. Dylid nodi hefyd y bydd cais am ‘Hysbysiad Cosb Benodedig’ yn cael ei ystyried os oes 5 diwrnod neu fwy (10 sesiwn) o ‘absenoldeb anawdurdodedig’ wedi’i gofnodi, yn ogystal â lefel presenoldeb yn is na 90% ar gyfer y flwyddyn ysgol. hyd yma.

 

Bydd slip awdurdodedig / anawdurdodedig yn cael ei ddychwelyd atoch wrth gyflwyno'r cais hwn.