Skip to content ↓

Health and Safety of school sites

Cymerir pob gofal posibl am ddiogelwch y plant tra byddant yn yr ysgol. Cynhelir arolwg weledol dyddiol o safle’r ysgol gan weithredu yn brydlon ar bryderon iechyd a diogelwch, a threfnu gwaith adfer. Amgylchynir safle’r ddwy ysgol gan ffens a chloddiau. Mae gatiau o dan glo rhwng 9am ac yn agor eto am 3.30pm. Er mwyn cael mynedfa i’r ysgol, mae angen cysylltu gyda staff trwy ffôn iddynt agor y gatiau. Rhaid i bob ymwelydd ymweld â’r brif fynedfa cyn cael mynediad i’r ysgol. Rhoddir cerdyn adnabod i ymwelwyr a gofynnwn iddynt arwyddo ein llyfr ymwelwyr. Os fydd ymwelwyr yn ymddwyn yn anaddas tuag at ddisgybl neu aelod o staff yna gofynnir iddynt adael campws yr ysgol ar unwaith a chysylltir â’r heddlu pan fo hynny’n briodol. Ceir ‘ymarferion tân’ yn dymhorol. Mae’r ysgol yn arolygu trefniadau iechyd a diogelwch ar gyfer disgyblion a staff yn gyson.

 

Os bydd plentyn yn derbyn anaf difrifol cysylltir a gwasanaethau brys ar unwaith. Os bydd plentyn yn sâl neu ag anaf i’r pen, neu anaf llai difrifol, cysylltir â’r rhieni.  Rhoddir moddion i blentyn mewn ar ôl derbyn cyfarwyddyd ysgrifenedig gan riant.

 

Gofynnwn i chi rhoi gwybod i staff pwy sydd fel arfer yn casglu eich plentyn. Os fydd newid yn y modd y bydd plentyn yn mynd adref, gofynnir i’r rhieni hysbysu’r staff.

Dyma gopi o bolisi Iechyd a Diogelwch y ddwy ysgol.