Skip to content ↓

Safeguarding

Mae Ffederasiwn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn yn cydnabod ein cyfrifoldeb moesol a statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles pob disgybl. Ymdrechwn i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar lle caiff plant eu parchu a'u gwerthfawrogi. Rydym yn effro i arwyddion cam-drin ac esgeulustod ac yn dilyn ein gweithdrefnau i sicrhau bod plant yn cael cymorth, amddiffyniad a chyfiawnder effeithiol. Mae amddiffyn plant yn rhan o gyfrifoldebau diogelu’r ysgol. Mae ein polisi Diogelu yn sail ac yn arwain ein gweithdrefnau a’n protocolau i sicrhau bod ein disgyblion a’n staff yn ddiogel.

Ms Catryn Lawrence yw'r uwch swyddog dynodedig sy'n gyfrifol am amddiffyn plant. Miss Lawrence yw'r aelod staff dynodedig sy'n gyfrifol am hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Mr Bryn Shepherd a Mrs Bethan Evans sy'n gyfrifol yn ei habsenoldeb. Mae Mr Robert Mills yn llywodraethwr dynodedig gyda chyfrifoldeb.

I gysylltu ag unrhyw aelod o’r tîm Diogelu ffoniwch 01970 828566 / 880277 neu e-bostiwch prif@penllwyn.ceredigion.sch.uk/prif@penrhyncoch.ceredigion.sch.uk.

 

Os ydych chi'n poeni am ddiogelwch plentyn yng Ngheredigion ac eisiau siarad â rhywun, neu os ydych chi'n blentyn sy'n poeni am eich diogelwch eich hun, contractiwch:

ATGYFEIRIADAU CEREDIGION: · Yn ystod Oriau Swyddfa: Canolfan Gyswllt – Ffôn: 01545 574000 Ffacs : 01545 574002 · E-bost: contact-socservs@ceredigion.gov.uk · Tu allan i Oriau Swyddfa: Tîm Dyletswydd Argyfwng – Ffôn: 0845 6015392 a all roi gwybod pan fydd sefyllfaoedd yn codi.

 

PREVENT

 

Gall terfysgaeth ddigwydd unrhyw le yn y byd gydag erchyllterau yn cael eu cynnal i gefnogi ideolegau amrywiol. Nid oes un diffiniad unigol o derfysgaeth ond mae'n cyfeirio'n gyffredin at weithredoedd troseddol a fwriedir i ysgogi cyflwr o derfysgaeth yn y cyhoedd.

Mae Prevent yn rhan o strategaeth wrthderfysgaeth y Llywodraeth sy’n ceisio atal pobl rhag dod yn derfysgwyr. Mae’n ddull aml-asiantaeth o ddiogelu pobl sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio.

Mae gan bob Ysgol ddyletswydd i ddiogelu plant rhag radicaleiddio ac eithafiaeth. Mae hyn yn golygu bod gennym gyfrifoldeb i amddiffyn plant rhag safbwyntiau eithafol a threisgar, yn yr un modd rydym yn gweithio i’w hamddiffyn rhag cyffuriau neu drais gangiau. Yn bwysig, gallwn ddarparu lle diogel i ddisgyblion drafod y materion hyn fel eu bod yn deall yn well sut i amddiffyn eu hunain.