Skip to content ↓

A Learning Organisation

 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

Esbonia’r clip fideo'r nod yr anelwn ati - sef i ddatblygu yn sefydliad sy’n Dysgu.

Yn ddisgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr, aelodau’r gymuned, yr awdurdod lleol a’r llywodraeth: mae gyda ni i gyd ein rhan i gyfrannu at wella ein ysgolion. Mae cael ein ystyried fel ysgolion sydd yn sefydliadau sy’n dysgu yn golygu ein bod ni i gyd yn agored ac yn chwilfrydig i ddysgu, hyfforddi, cydweithio archwilio a threialu er mwyn diwallu anghenion ein disgyblion.

Trwy ein prosesau gwella ansawdd,  ffurfiwn gynllun datblygu ysgol ar y cyd (CDY) sydd yn ein gyrru tuag at ein gweledigaeth ar gyfer y ffederaliaeth.

Eleni, mae rein prosesau mewnol, ac arolygiad diweddar gain Estyn, rwedi adnabod 4 blaenoriaeth yr ydym yn mynd i’r afael a nhw sef:

  1. Mynd i’r afael â’r mater iechyd a diogelwch a godwyd yn ystod yr arolygiad  (Penrhyn-coch yn unrig)

  2. Sicrhau bod disgwyliadau athrawon yn ddigon uchel i gefnogi’r holl ddisgyblion i gyflawni hyd eithaf eu gallu  

  3. Datblygu medrau dysgu annibynnol disgyblion, gan gynnwys eu gallu i wneud dewisiadau ynglŷn â’u dysgu, gwella gwaith eu hunain, a dylanwadu ar waith yr ysgol. 

  4. I wella rhuglder a dealltwriaeth darllen Cymraeg disgyblion ar draws blynyddoedd 3 i 6 y ddwy ysgol 

Mae gyda ni i gyd fel rhan-ddeiliaid yr ysgol rôl i chwarae wrth sicrhau cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau yma. Os oes gyda chi syniadau am sut y medrwch gyfrannu at ein gweledigaeth, trafodwch gyda’r pennaeth.